Menter Caerdydd

hybu'r iaith yn lleol

Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg

Newyddion 1

'Sgol Sgrin

'Sgol Sgrin
16/08/2010

STWNSH!

STWNSH!
Mae Stwnsh yn chwilio am blant rhwng 8 ac 15 i gymryd rhan mewn dwy gyfres newydd cyffrous… ond bydd angen i’r teulu gyfan ymuno yn yr hwyl hefyd!

JAC RUSSELL - Cyfres yn dilyn hanes ci bach direudus wrth iddo ymweld â gwahanol deuluoedd o gwmpas Cymru. Yn ystod pob rhaglen bydd Jac yn dod i adnabod y teulu a dysgu ychydig am yr ardal leol. Dyna’r darn boring! Yna mae ‘na sgetsis a chwis a dŵr a dwli a selebs a chwerthin a bod yn wirion a chwrs antur Crufts-aidd! Am ragor o wybodaeth neu i gynnig eich hun cysylltwch â Catrin Brooks ar 02920 550 883 neu ar catrin.brooks@boomerang.co.uk.

Poen! - Cyfres newydd i blant sydd yn ymwneud â iechyd a ffitrwydd mewn ffordd hwylys iawn! Yn ystod pob rhaglen mi fyddwn yn gosod her ffitrwydd i’r teulu, gosod sialensau digri a chynnig tips ar sut i fwyta a byw yn iach! Am ragor o wybodaeth neu i gynnig eich hun cysylltwch âg Elin Jones ar 02920 550 871 neu ar elin.jones@boomerang.co.uk.
22/07/2010

‘Sgol Sŵn - Mae’r Chwedl Roc a Rôl yn parhau dros yr Haf yn Nhŷ Tawe!

‘Sgol Sŵn - Mae’r Chwedl Roc a Rôl yn parhau dros yr Haf yn Nhŷ Tawe!
Mewn cydweithrediad a’r Urdd a Cherdd Cymunedol Cymru, mae Menter Iaith Abertawe wedi rhoi cyfle’r wythnos hon i bedwar band ifanc i ffurfio ac ymarfer eu sgiliau cerddorol a recordio’r cyfan ar gryno ddisg! Fe luniodd y bandiau enwau, bathodynnau a chrysau-T i hyrwyddo eu grwpiau roc newydd.

Un o’r bandiau oedd yn rhan o’r freuddwyd Roc a Rôl oedd Y Brodyr Coll. Fe gafodd y bois gyfle i recordio eu can “Dawnsio yn y Disgo” o fewn un diwrnod cyn mynd lawr yr M4 i Gaerdydd gyda chopi i chwarae ar C2 Radio Cymru! Roedd band arall o Abertawe, Yr Angen yno hefyd i ddangos yr awenau a chyd gyflwyno wrth gael eu ffilmio ar gyfer newyddion S4C!

Cynllun Y BRAWD MAWR fydd y digwyddiad nesaf gyda’r Fenter
Gwyliwch y gofod!
‘Sgol Sŵn - Mae’r Chwedl Roc a Rôl yn parhau dros yr Haf yn Nhŷ Tawe!
29/07/2010

Taith olwynion!

Taith olwynion!
19/07/2010

Rhagor o Newyddion

@bertaw-e
Cofrestrwch i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg
e-bost digwyddiadau
menter abertawe

 

MEITHRINFA GYMRAEG I ABERTAWE

Mae Menter Iaith Abertawe yn ymchwilio i'r posiblirwydd o sefydlu meithrinfa cyfrwng Cymraeg yng nghanol Dinas Abertawe.

Os ydych yn:
riant fyddai'n gweld sefydlu meithrinfa o'r fath yn ddefnyddiol;

debygol o ddefnyddio meithrinfa Gymraeg yn y dyfodol;

neu yn
weithiwr proffesiynol gyda diddordeb gweithio mewn meithrinfa Gymraeg?

Yna mae'r Fenter yn eich gwahodd i lenwi’r holiadur ar y wefan hon er mwyn mesur y galw.

Cliciwch ar y ddolen gyswllt wrth ochr y sgrin.

Cliciwch yma>> Holidaur

 

Cliciwch i weld Fideos y Fenter
You Tube

Digwyddiadau

Pwyllgor Apêl Pontarddulais a’r Cylch
9:00 Dydd Mercher 04/08/2010
Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy
Mae Pwyllgor Apêl Pontarddulais a’r Cylch yn trefnu bws i Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy ar y dydd Mercher (4/8/10). Byddwn yn debyg o adael tua 9 yn y bore a nol ddiwedd y prynhawn.

Mae gen ti ddewis



Top a a
a Urdd Gobaith Cymru

Ewrop

a