Menter Caerdydd

hybu'r iaith yn lleol

Cymorth.com Llinellau Ffôn Cymraeg

Newyddion 2

Cynllun Cyfnewid Ieuenctid y 4 Cornel

Mae grŵp o bobl ifanc brwdfrydig o Abertawe wedi bod yn gweithio gyda’u cyfoedion yng Ngogledd Cymru, Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon ar gynllun cyfnewid rhyng-ddiwylliannol. Bydd y bobl ifanc yn archwilio tebygrwydd a gwahaniaethau o safbwynt hunaniaeth mewn meysydd fel diwylliant, iaith, crefydd a’r syniad o berthyn o fewn y gymuned Geltaidd.

Fel rhan o Gynllun Cyfnewid Ieuenctid y 4 Cornel, mae’n fwriad i drefnu cyfres o ymweliadau rhwng grwpiau o bobl ifanc o Abertawe, Conwy - Gogledd Cymru, Dinas Corc - Gweriniaeth Iwerddon a Swydd Down yng Ngogledd Iwerddon.

Mae grŵp o 10 o bobl ifanc o Abertawe sydd rhwng 14-21 oed yn ymwneud a’r bartneriaeth ar ôl trefniadau rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Dinas a Sir Abertawe a Menter Iaith Abertawe; byddant yn ymweld a Belffast ar Orffennaf y 4ydd ar ran gyntaf y daith gyfnewid.
21/06/2010

Mr Urdd yn mynd i'r Wyddfa!

Mr Urdd yn mynd i'r Wyddfa!
Mae gwaith caled codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011 yn parhau!

Bydd y faner hon, a grëwyd gan y plant a ddaeth i fore celf Menter Iaith Abertawe dros hanner tymor, yn mynd i gopa'r Wyddfa gyda Carys Mol yn yr haf eleni. Diolch i'r plant a helpodd i greu'r faner, ac i'r holl bobl a dalodd 50c i'w harwyddo!

Pob lwc Carys!



15/06/2010

Profiad Brawd Mawr

Profiad Brawd Mawr
Mae Profiad Brawd Mawr Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe yn her 3 diwrnod, 2 noson.

Byddwch yn byw mewn tŷ gyda 23 o bobl eraill gan orfod cwblhau heriau er mwyn goroesi.

Mae'r Profiad Cymraeg o ddydd Llun, 23 Awst i ddydd Mercher 25 Awst.
Profiad Brawd Mawr
21/06/2010

TYRFE BACH 2010 YN TARANU!

TYRFE BACH 2010 YN TARANU!
O’r nosweithiau comedi a gwerin i fore o fwynhau Delyth a’r Delyn at y noson roc yn y Vault, do, fe daranodd Tyrfe Bach eleni i ddathlu Gwŷl Ddewi. Dyma flas i chi o’r hyn ddigwyddodd...

...fe gafodd pawb eu goglais gan noson gomedi’r wŷl a lwyddodd i roi dechrau cofiadwy i’r dathliadau yng nghwmni Noel James, Richard Bowen a Neil Rosser (24/03/10)...

...cafwyd bore hamddenol yn Nhy Tawe yng nghwmni Delyth Jenkins a’i thelyn (25/03/10)...

...noson Roc a Rils gyda’r Alltud, Dan Morris a’i gyfeillion, Ric-a-Dor a sesiwn werin oedd canolbwynt y dathlu nos Wener 26/03/10...

...a nos Sadwrn fe aeth Tyrfe Bach i’r Vault a chyflwyno bandiau fel The Unknown, Yr Angen, Mr Huw, Y Niwl a Yucatan i dorf fywiog Wind Street. Does dim dwywaith bod yr Wŷl wedi bod yn llwyddiant mawr, a mae trefniadau ar fin dechrau i drefnu Tyrfe Tawe arall yn yr Hydref.
TYRFE BACH 2010 YN TARANU!
07/04/2010

Rhagor o Newyddion

@bertaw-e
Cofrestrwch i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg
e-bost digwyddiadau
menter abertawe

 

MEITHRINFA GYMRAEG I ABERTAWE

Mae Menter Iaith Abertawe yn ymchwilio i'r posiblirwydd o sefydlu meithrinfa cyfrwng Cymraeg yng nghanol Dinas Abertawe.

Os ydych yn:
riant fyddai'n gweld sefydlu meithrinfa o'r fath yn ddefnyddiol;

debygol o ddefnyddio meithrinfa Gymraeg yn y dyfodol;

neu yn
weithiwr proffesiynol gyda diddordeb gweithio mewn meithrinfa Gymraeg?

Yna mae'r Fenter yn eich gwahodd i lenwi’r holiadur ar y wefan hon er mwyn mesur y galw.

Cliciwch ar y ddolen gyswllt wrth ochr y sgrin.

Cliciwch yma>> Holidaur

 

Cliciwch i weld Fideos y Fenter
You Tube

Digwyddiadau

S4C
7.00yh Dydd Mercher 08/09/2010
Neuadd y Tymbl, Tymbl
Lansiad Pen Talar Tocynnau: 029 20741491

Yr Urdd
7.30 Dydd Iau 16/09/2010
Tafarn Y Manselton, Manselton, Abertawe
Dewch i noson o Ganu yn Y Manselton! Elw'r raffl at Bwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd Abertawe 2011. Gwobr Gyntaf- 2 docyn i gêm Cymru v Seland Newydd ym mis Tachwedd.

Menter Iaith Abertawe
7.00 Dydd Gwener 17/09/2010
Ty Tawe, 9 Stryd Christina, Abertawe, SA1 4EW
Noson cymdeithasol y Fenter! Dewch â phedair eitem lân ac o ansawdd da i'w cyfnewid, hyd yn oed eitemau cynllunydd! Os yn bosib, dewch a'r dillad i Dy Tawe ar y diwrnod blaenorol. £3 yr un.

Gwlad yr Addewid gan Ed Thomas
7.30 Dydd Sadwrn 25/09/2010
Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe
Cynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru yw cyfieithiad i'r Gymraeg o stori ffrwydrol ac angerddol Ed Thomas, 'House of America', am frwydr anobeithiol dyn yn erbyn amgylchiadau a diwedd y freuddwyd Americanaidd mewn tref ddiwydiannol yn ne Cymru yn yr 1980au.

Menter Iaith Abertawe
7.30yh Dydd Llun 27/09/2010
Neuadd y Fenter, 9, Stryd Christina, Abertawe, SA1 4EW
Noson Yoga Oedolion yn y Fenter! £6.00 yr un am y cyfle i gymdeithasu, ymlacio ac ymarfer corff! I cynnal pob pythefnos. Dewch a blanced, mat os yn bosib, a clustog. Am fanylion pellach, cysylltwch â Ceri Roberts 01792 460906.

Mae gen ti ddewis



Top a a
a Urdd Gobaith Cymru

Ewrop

a